Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn

Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 22 Medi 2021

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
12432

19

------

<AI1>

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

Datganiad y Llywydd

Cyhoeddodd y Llywydd y gall Peter Fox ofyn am gytundeb y Senedd ar ei gynnig ar gyfer Bil Bwyd (Cymru), yn dilyn ei lwyddiant yn y balot ar gyfer Bil Aelod a gynhaliwyd y diwrnod hwnnw.

</AI2>

<AI3>

1       Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Dechreuodd yr eitem am 13.31

Gofynnwyd cwestiynau 1-6 ac 8. Trosglwyddwyd cwestiwn 7 i'w ateb yn ysgrifenedig gan Weinidog yr Economi. Atebwyd cwestiwn 1 gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI3>

<AI4>

2       Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Dechreuodd yr eitem am 14.22

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 6 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI4>

<AI5>

3       Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Dechreuodd yr eitem am 15.12

Gofynnwyd cwestiynau 1, 3 a 4. Tynnwyd cwestiwn 2 yn ôl.

</AI5>

<AI6>

4       Cwestiynau Amserol

Dechreuodd yr eitem am 15.21

I’r Gweinidog Newid Hinsawdd:

Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y cynnydd sylweddol mewn prisiau nwy a’r cynnydd cydamserol mewn prisiau ynni ar ddefnyddwyr Cymru?

</AI6>

<AI7>

5       Datganiadau 90 Eiliad

Dechreuodd yr eitem am 15.36

Gwnaeth Gareth Davies ddatganiad am: Dathlu 50 Mlynedd o Lwybr Clawdd Offa.

Gwnaeth Heledd Fychan ddatganiad am: Wythnos Werdd Pontypridd (18-26 Medi).

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.39 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd.

</AI7>

<AI8>

6       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Amseroedd ymateb ambiwlansys

Dechreuodd yr eitem am 15.49

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7779 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod ychydig dros hanner y galwadau ambiwlans coch wedi cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o wyth munud ym mis Gorffennaf 2021.

2. Yn nodi ymhellach y pwysau aruthrol y mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru oddi tano gydag amseroedd trosglwyddo gofal cynyddol o hyd at 18 awr.

3. Yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad staff Gwasanaeth Ambiwlans Cymru mewn amgylchiadau mor heriol.

4. Yn cydnabod y pwysau mewn gofal cymdeithasol a sylfaenol a'r sgil-effeithiau ar y gwasanaeth ambiwlans.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) datgan argyfwng yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru.

b) cyflwyno cynllun cynhwysfawr i wella amseroedd ymateb ambiwlansys, gan gynnwys camau i:

i) sicrhau gweithlu gofal cymdeithasol digonol;

ii) gwella mynediad i apwyntiadau gofal sylfaenol wyneb yn wyneb; a

iii) cynyddu capasiti gwelyau mewn ysbytai.  

c) nodi cynllun ac amserlen glir ar gyfer codi cyflog gweithwyr gofal ledled Cymru.

d) ystyried defnyddio cefnogaeth Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi i helpu i gynyddu capasiti ymateb ambiwlansys.

e) ymdrechu'n galetach i recriwtio parafeddygon yn gyflym.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

34

47

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1.    Yn nodi, yng nghyd-destun lefelau digynsail o alw, fod ychydig dros hanner y galwadau ambiwlans coch wedi cyrraedd targed Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2021.

2.    Yn nodi ymhellach y pwysau aruthrol ar yr holl wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru gan gynnwys Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a’r ystod o heriau cenedlaethol a lleol sy’n effeithio ar lif cleifion.

3.    Yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad staff Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a holl staff gwasanaethau iechyd a gofal mewn amgylchiadau mor heriol.

4.    Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a)  sicrhau bod y camau a nodir yng nghynllun cyflawni Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys yn cael eu cyflawni’n gyflym ac yn bwrpasol;

b) cefnogi ystod o fentrau i helpu i recriwtio a chadw staff yn y sector gofal cymdeithasol a rhoi cymorth i gyflogwyr gofal cymdeithasol;

c) gwella mynediad i apwyntiadau gofal sylfaenol wyneb yn wyneb pan yn glinigol briodol;

d) gwireddu ei hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal;

e) parhau i gydweithio â Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi i helpu i gynyddu capasiti ymateb ambiwlansys; a

f) ymdrechu'n galetach i recriwtio clinigwyr ambiwlans yn gyflym.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

22

47

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel wedi’i ddiwygio:

37

0

10

47

Derbyniwyd y cynnig fel wedi’i ddiwygio.

</AI8>

<AI9>

7       Dadl Plaid Cymru – Wythnos waith pedwar diwrnod

Dechreuodd yr eitem am 16.46

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7780 Siân Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y newid mewn arferion gwaith o ganlyniad i bandemig COVID-19 a bod llawer o fanteision lles a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith wedi dod o ganlyniad i hyn.

2. Yn credu bod angen diwygio arferion gwaith i ymateb i heriau'r chwyldro awtomeiddio.

3. Yn nodi â diddordeb bod llywodraethau yn yr Alban, Sbaen ac Iwerddon yn bwriadu cynnal cynlluniau peilot ar lefel genedlaethol ar gyfer wythnos waith pedwar diwrnod.

4. Yn cydnabod bod cynlluniau peilot o wythnos waith pedwar diwrnod yng Ngwlad yr Iâ wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac wedi arwain at lawer o weithwyr yn symud i oriau byrrach heb ostyngiad mewn cyflog.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cynllun peilot wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru i archwilio'r manteision i holl weithwyr Cymru, yr economi a'r amgylchedd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

36

47

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwyntiau 3, 4 a 5.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

34

47

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 – Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried y cynnydd a wneir drwy gynlluniau peilot mewn gwledydd eraill ac archwilio’r gwersi y gall Cymru eu dysgu.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

22

47

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 – Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai cyflogwyr a gweithwyr gytuno ar drefniadau gwaith ac na ddylid gorfodi unrhyw weithwyr na chyflogwyr i fabwysiadu wythnos waith pedwar diwrnod.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

35

47

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 – Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod materion cyflogaeth wedi'u cadw yn ôl i Senedd y DU.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

35

47

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel wedi’i ddiwygio:

NDM7780 Siân Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y newid mewn arferion gwaith o ganlyniad i bandemig COVID-19 a bod llawer o fanteision lles a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith wedi dod o ganlyniad i hyn.

2. Yn credu bod angen diwygio arferion gwaith i ymateb i heriau'r chwyldro awtomeiddio.

3. Yn nodi â diddordeb bod llywodraethau yn yr Alban, Sbaen ac Iwerddon yn bwriadu cynnal cynlluniau peilot ar lefel genedlaethol ar gyfer wythnos waith pedwar diwrnod.

4. Yn cydnabod bod cynlluniau peilot o wythnos waith pedwar diwrnod yng Ngwlad yr Iâ wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac wedi arwain at lawer o weithwyr yn symud i oriau byrrach heb ostyngiad mewn cyflog.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried y cynnydd a wneir drwy gynlluniau peilot mewn gwledydd eraill ac archwilio’r gwersi y gall Cymru eu dysgu.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

12

47

Derbyniwyd y cynnig fel wedi’i ddiwygio.

</AI9>

<AI10>

8       Cyfnod pleidleisio

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.43 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.

Dechreuodd yr eitem am 17.48

</AI10>

<AI11>

9       Dadl Fer

Dechreuodd yr eitem am 17.55

NDM7774 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Ni yw'r hyn yr ydym yn ei fwyta: canolbwyntio ar ddwysedd maetholion bwyd er mwyn gwella iechyd y cyhoedd.

</AI11>

<AI12>

Crynodeb o Bleidleisiau

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 18.21

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 28 Medi 2021

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>